Select Page

Gwenllian Griffiths.


Ymgynghorydd Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus

Ymgynghorydd Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus

Arbenigwr Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu wedi’i Gwobrwyo


Rwyf yn arbenigwr materion cyhoeddus a chyfathrebu wedi fy ngwobrwyo gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ar draws y Deyrnas Unedig. Rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd llawrydd ers tair blynedd yn cynghori amrywiaeth o sefydliadau megis y British Heart Foundation, Marie Curie, Mudiad Meithrin a’r WCVA. Fel cyn Gyfarwyddwr Partneriaethau S4C a Phennaeth Materion Allanol Macmillan yng Nghymru, mae gen i record o ennill cefnogaeth a newid safbwyntiau Llywodraethau Cymru a Llundain ar faterion polisi cyhoeddus. Mae gen i ddealltwriaeth lwyr o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau sy’n ymwneud â ac yn dylanwadu ar Weinidogion, cynghorwyr arbennig, gweision sifil, Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol, y GIG yng Nghymru a llunwyr barn eraill. Rwyf yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf felly gallaf gynorthwyo’ch sefydliad i greu polisi a chyfathrebiadau gwleidyddol ysbrydoledig yn Gymraeg a Saesneg.

Arbenigwr Materion Cyhoeddus a Chyfathrebu wedi’i Gwobrwyo


Rwyf yn arbenigwr materion cyhoeddus a chyfathrebu wedi fy ngwobrwyo gyda dros 15 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol ar draws y Deyrnas Unedig.

Rwyf wedi gweithio fel ymgynghorydd llawrydd ers tair blynedd yn cynghori amrywiaeth o sefydliadau megis y British Heart Foundation, Marie Curie, Mudiad Meithrin a’r WCVA.

Fel cyn Gyfarwyddwr Partneriaethau S4C a Phennaeth Materion Allanol Macmillan yng Nghymru, mae gen i record o ennill cefnogaeth a newid safbwyntiau Llywodraethau Cymru a Llundain ar faterion polisi cyhoeddus. Mae gen i ddealltwriaeth lwyr o’r heriau sy’n wynebu sefydliadau sy’n ymwneud â ac yn dylanwadu ar Weinidogion, cynghorwyr arbennig, gweision sifil, Aelodau Cynulliad, Aelodau Seneddol, y GIG yng Nghymru a llunwyr barn eraill.

Rwyf yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf felly gallaf gynorthwyo’ch sefydliad i greu polisi a chyfathrebiadau gwleidyddol ysbrydoledig yn Gymraeg a Saesneg.

Cleientiaid


Gwasanaethau


R

Monitro Gwleidyddol

Cysylltiadau gyda’r Llywodraeth

Datblygu strategaeth

w

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Hyfforddi

Digwyddiadau

y

Ymgyrchu

Polisi

Materion Cyhoeddus

v

Cyfathrebu a negeseuon

Cyfathrebu dwyieithog

R

Monitro Gwleidyddol

Cysylltiadau gyda’r Llywodraeth

Datblygu strategaeth

w

Ymgysylltu â rhanddeiliaid

Hyfforddi

Digwyddiadau

y

Ymgyrchu

Polisi

Materion Cyhoeddus

v

Cyfathrebu a negeseuon

Cyfathrebu dwyieithog

Barn fy nghleientiaid


“Roedd gan Gwenllian y gallu i sialensi’n gwaith mewn modd adeiladol i'n cynorthwyo i droi syniadau polisi cychwynnol yn gyfres o ddatganiadau clir a rhesymegol wedi’u hategu gan ddadleuon cadarn eu hymresymiad. Roedd ganddi’r ddawn i siapio’r syniadau cymhleth yma a’u datblygu’n gynllun cyfathrebu effeithiol a threfnus. Mae ganddi synnwyr digrifwch ardderchog a golygodd hyn bod ein hamser yn gweithio gyda’n gilydd yn bleserus iawn.”

Susan Morris, cyn Reolwr Cyffredinol dros Gymru, Cymorth Canser Macmillan

“Mae gan Gwenllian ddealltwriaeth drylwyr o’r sectorau iechyd a gwirfoddol ac mae’n arbenigo ar ddelio yn effeithiol gyda’r Cynulliad a Llywodraeth Cymru – yn ddi-os byddwn yn ei hargymell fel ymgynghorydd.”

Simon Jones, Cyfarwyddwr Polisi a Materion Cyhoeddus, Marie Curie

“Cawsom sesiwn hyfforddiant buddiol a diddorol gan Gwenllian a buaswn yn argymell defnyddio’r gwasanaeth yn ddi-oed oherwydd ei addasrwydd”

Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr, Mudiad Meithrin

“Mi ddoist i fewn ar adeg anodd a chael gafael gadarn ar yr issues yn gyflym iawn. Roeddwn i wastad yn gwerthfawrogi dy gyngor treiddgar a’th waith paratoi cynhwysfawr a safonol.”

Huw Jones, Cadeirydd Awdurdod S4C

Cysylltu


07980 013 842

Gwenllian Griffiths | Caerdydd
Ymgynghorydd Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus
07980 013 842 | gwenllian@gwenlliangriffiths.cymru
Cedwir pob hawl | 2018 ©
Gweld fy mholisi preifatrwydd